Ymaelodwch â Chlwb Byd Busnes RhCT

Bydd aelodau Clwb Byd Busnes Rhondda Cynon Taf yn cael y manteision canlynol i gyd.

Dyma ffordd wych i bobl fusnes i gwrdd â’i gilydd mewn amgylchfyd hamddenol:

  • Meithrin cysylltiadau newydd
  • Dod o hyd i gwsmeriaid newydd
  • Dod o hyd i gyflenwyr newydd
  • Dysgu trwy brofiad eraill
  • Rhannu syniadau a datrys problemau
  • Cael cymorth arbenigol

Y Manteision

Bydd aelodau Clwb Byd Busnes yn cael y manteision canlynol i gyd:

  • Gwahoddiadau i’n Brecwastau Busnes a’n seminarau ddiwedd y prynhawn lle bydd o leiaf 2 siaradwr yn trafod materion byd busnes
  • Gwahoddiad i’n Cinio Gwobrwyo blynyddol; achlysur uchel ei fri lle bydd modd ichi rwydweithio ac ymlacio gyda’ch cyfoedion wrth ddathlu’r gorau o ran arfer dda ym myd busnes yn Rhondda Cynon Taf
  • Byddwch chi’n derbyn copi o’n e-fwletin ‘Cysylltu a Datblygu’ sy’n cynnwys manylion am fentrau byd busnes a rhagor o fanylion ynglŷn ag achlysuron a gweithgareddau’r dyfodol.
  • Graddfeydd hysbysebu manteisiol a phrisiau gostyngol ar gyfer prynu data byd busnes
  • Cynigion gostyngol a chynigion arbennig ar wasanaethau llawer o fusnesau ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol

Mae croeso i unrhyw fusnes neu fenter cymunedol yn Rhondda Cynon Taf i ymaelodi â’r Clwb Byd Busnes. Oherwydd ein bod ni’n cydnabod bod cyfleoedd busnes ddim bob amser yn cyd fynd â ffiniau’r Sir, mae croeso i fusnesau y tu allan i Rondda Cynon Taf i ymaelodi’r â’r Clwb Byd Busnes, am bris sy fymryn yn uwch. Tâl Aelodaeth

  • Aelodaeth lawn yn rhad ac am ddim am 12 mis (Cwmnïau sy newydd gychwyn ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)
  • £58.75 (gan gynnwys TAW) am 12 mis (Cwmnïau sydd â chanolfannau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)
  • £76.38 (gan gynnwys TAW) am 12 mis (Cwmnïau sydd â’u canolfannau y tu allan i Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)

Cliciwch yma i ymaelodi ar lein.