News

Cwmni Bysiau Edwards Coaches yn paratoi ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd

11 Medi 2007

Mae cwmni Edwards Coaches wedi trawsnewid 4 o’u bysiau i gynrychioli’r timau i gyd sy’n cystadlu yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007, ac mae’r bysiau glas arferol gydag enw Edwards ar hyd eu hochrau, wedi’u trawsnewid yn fysiau arian, sy’n arddangos baneri’r ugain o wledydd sy’n gobeithio cipio’r gwpan.

Yn ogystal â thîm Cymru, sy’n wynebau cyfarwydd ar fysiau Edwards, mae cwmni Edwards Coaches yn falch i gludo timau Awstralia, Ffiji, Canada a Siapan. Mae nifer o fysiau’r cwmni draw yn Ffrainc yn cludo cefnogwyr i gemâu’r gystadleuaeth eisoes.

"Rydyn ni wedi gwirioni ar rygbi, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gwmni bws Tîm Rygbi Cymru, ac mae cael y cyfle i gydweithio â thimau’n sy’n cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn fraint mawr i ni, dyma brawf o safon y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig i’n cwsmeriaid, yn cludo rhai o bencampwyr rygbi’r byd!" meddai Jason Edwards, Cyfarwyddwr y Cwmni.

Bydd y timau’n cyrraedd ddydd Iau a bydd y bysiau i’w gweld yn nepo Cwmni Edwards Coaches, Llanilltud Faerdref yn gynnar bore Iau ar gyfer sesiwn y wasg a thynnu lluniau.

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Rachael Collier ar 01443 202048 est. 219.