News

Cymorth Rhithwir: Diwydiant a anwyd mewn Cerbyd Gwersylla yn cyrraedd llawn dwf

10 Medi 2007

Roedd bryd Leonard, sylfaenydd International Coach Federation, ar ddatblygu rhaglenni hyfforddi byd busnes. Ac yntau allan ar y ffordd rydd, yr hyn yr oedd e wir angen oedd cymorth gweinyddol hyblyg.

Ar y pryd, doedd dim syniad ganddo y byddai mynd i’r afael â’i broblemau byd busnes ei hun yn fan cychwyn ar y syniad o Gymorth Rhithwir – cynorthwy-ydd personol sy ddim angen dod i’ch swyddfa.

Mae Cynorthwywyr Rhithiwr – neu CR – wedi datblygu’n fawr iawn ers hynny, gyda thros 20,000 ohonyn nhw yn gweithio ar draws gwledydd Prydain ac Ewrop yn unig erbyn hyn. Gyda rhagor o fusnesau yn cwtogi ar nifer eu gweithwyr a rhagor yn gweithio gartref i dorri i lawr ar faint o garbon deuocsid maen nhw’n ei gynhyrchu, mae digon o gyflenwad a galw ar gyfer Cymorth Rhithwir yn y byd busnes sydd ohoni.

Mae CR ar gynnydd yng Nghymru. A chydag Isadeiledd TG ar gael i roi cymorth i weithwyr, mae Cynorthwywyr Rhithwir newydd yn sefydlu busnesau’u hunain bob mis. I gyd-fynd â’r cynnydd yma, mae Caerdydd ar fin cynnal ei chynhadledd gyntaf ar gyfer Cynorthwywyr Rhithwir.

Wedi’i threfnu gan ddau Gynorthwywr Rhithwir lleol, dyma gynhadledd gwledydd Prydain ar gyfer CR sy wedi’u hen sefydlu a rhai newydd yn ogystal, gyda sesiynau gloywi ac enghreifftiau o arfer dda i gadw CR sy wedi’u hen sefydlu ar flaenau’n traed.

"Dydy hi ddim bob amser yn beth hawdd gwybod ble i droi am gymorth," meddai Kathryn Williams, un o drefnwyr y gynhadledd. Sefydlodd Kathryn ei busnes Completely Organised 5 mlynedd yn ôl, ac mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw o ran dod â CR i’r amlwg.

"Mae CR o fudd mawr ar gyfer unrhyw fusnes," meddai hi. "Dyma faes sy’n gofyn am arbenigedd a dealltwriaeth o fyd technoleg, mentergarwch a medrau ysgrifenyddol a chyfrifiadurol. Mae gan sawl CR nifer o’r medrau yma eisioes, a nod y gynhadledd yma yw rhoi cymorth iddyn nhw i lenwi’r bylchau."

Bydd y gynhadledd yng ngwesty’r Copthorne Caerdydd ar 29ain Medi. Mae Rebekah Daniel, un o’r trefnwyr yn gobeithio bydd yr achlysur yn tynnu mwy o sylw at CR.

"Mae nifer cynyddol o ddynion a menywod o Gymru eisiau gweithio o’u cartref," meddai Rebekah. "Gall fod yn fater o adael gwleidyddiaeth swyddfa ar ôl ond ar gyfer rhai eraill gall fod yn ffordd o gael cydbwysedd rhwng gwaith a’r cartref.

"Teimlad o ryddid a bod yn hapus wrth eich gwaith yw’r nod yn pendraw. Braf yw rhoi cymorth i fusnesau a’u rhyddhau nhw rhag dyletswyddau gwaith gweinyddu. Rydw i‘n cael cyfle i ehangu fy musnes yn ogystal â rhoi cymorth i ehangu’u busnesau pobl eraill ar yr un pryd," meddai Rebekah.

Yn ystod y dyddiau cynnar hynny yn ei gerbyd gwersylla, go annhebyg y byddai Thomas Leonard wedi rhagweld y cynnydd sylweddol fyddai’n codi mewn CR o ganlyniad. Ond mae’r hyfforddwr byd busnes, bu farw yn 2003, wedi gadael etifeddiaeth sy’n dechrau ail-lunio’r ffordd rydyn ni’n cynnal a thrafod busnes yng Nghymru.

I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i www.vaconference.co.uk neu anfon neges ebost .