News

14eg Gwobrau Celf a Busnes Cymru

17 Gorff 2007

Cyhoeddwyd enwau 8 o bartneriaid byd busnes gorau y celfyddydau yn ystod Seremoni Wobrwyo Celf a Busnes Cymru ar nos Lun, yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd.


Mae’r Gwobrau, a noddwyd gan Grant Thornton a’r Post Brenhinol, yn cydnabod cyfraniad byd busnes at y celfyddydau yng Nghymru. Roedd enwogion, gan gynnwys yr actorion Keiron Self a William Thomas, David Emanuel, cynllunydd a chyflwynydd enwog, Sophie Kain, cyn seren rhaglen deledu The Apprentice a’r soprano Elin Manahan Thomas, yn cyflwyno darnau o gelf a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Angharad Pearce Jones, gofaint ac arlunydd o Orllewin Cymru i’r enillwyr. Y darlledwyr Nicola Heywood-Thomas ac Arfon Haines Davies oedd y gwesteion gwadd.


Cyhoeddwyd Group 4 Securicor yn enillydd y wobr Celfyddydau, Byd Busnes a Phobl Ifainc, yn gydnabyddiaeth am waith partneriaeth sy wedi manteisio ar rym y celfyddydau i ddod â phobl ifainc yn rhan o bethau, a’r gwaith arloesol o fod yn bartner i Theatr Spectacle i weithio â throseddwyr ifainc yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

"Prosiect gwych" oedd ymateb y beirniaid i’r bartneriaeth. Roedd Uned Troseddwyr Ifainc yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd i wella ymddygiad troseddwyr ifainc a rhoi cyfle i bobl ifainc i feithrin y medrau hynny sydd eu hangen i adsefydlu yn y gymuned yn ddiogel. Gyda buddsoddiad o A&B, bu Spectacle yn trefnu gweithdai wythnosol i fagu hunan hyder troseddwyr ifainc, yn ogystal ag annog gweithio fel rhan o garfan, gwaith ar y cyd a gwerthfawrogi drama ar yr un pryd.

Roedd cytgord y berthynas wedi creu argraff fawr ar y beirniaid. Mae Spectacle wedi ymroi i hyrwyddo cyfle cyfartal trwy gynnwys gweithgareddau hollgynhwysol sydd heb fod yn feirniadol ac sy’n adlewyrchu bywydau pobl sy dan anfantais, pobl sydd yn amlach na pheidio, ddim yn cael eu cynrychioli na’u gwasanaethu gan y theatr. Yn ganlyniad i’r prosiect, mae ymddygiad dros 100 o droseddwyr ifainc wedi gwella’n fawr iawn ac maen nhw’n llawer mwy parod i ddod yn rhan o weithgareddau eraill hefyd. Yn ogystal â parhau i weithio gyda bechgyn 15-17 oed, bydd y bartneriaeth nawr yn ymestyn i rai o brif feysysdd eraill y carchar.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Elaine Lord, Rheolwr Marchnata ar 01443 430700 neu ebost [email protected]