News

Torfeydd mawr yn achlysur Ideal Business Show 2007

7 Mehef 2007

Ac yntau’n un o’r achlysuron rhwydweithio gorau yng Nghymru, cafodd yr Ideal Business Show ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm ar 13eg a 14eg o Fehefin. Roedd cyfle gwych i fusnesau o bob math a maint i rwydweithio, rhannu arfer dda, meithrin cysylltiadau newydd a chael rhagor o wybodaeth am yr ystod o gyngor a chymorth sy ar gael i fusnesau yng Nghymru.

Cafodd Clwb Busnes Rhondda Cynon Taf ymateb gwych a’r gobaith yw codi stondin yn sioeau’r dyfodol. Hoffen ni ddiolch i noddwyr y Clwb Byd Busnes - LightAge Communications Cyf a Busniness in Focus, yn ogystal â nifer o aelodau eraill y Clwb a gyfrannodd i wneud ein stondin yn atyniad llwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 424109 neu anfon ebost [email protected]